[Y Gŵr / Yr Oen] fu ar Galfaria

1,(4);   1,2,3.
(Clorianau'r farn)
Y Gŵr fu ar Galfaria,
  A welir maes o law;
Yn eistedd ar ei orsedd,
  A'r glorian yn ei law;
A phawb a gesglir yno,
  I'w pwyso ger ei fron;
O! f'enaid cais dduwioldeb,
  I droi y glorian hon.

Daw dydd o brysur bwyso,
  Ar grefydd cyn bo hir;
Cei gwel'd gan bwy mae sylwedd,
  A phwy sydd heb y gwir:
O! Arglwydd rho im' 'dnabod,
  Ar f'ysbryd ol dy law;
Can's dyna'r ddelw a'r argraff,
  Arddelir ddydd a ddaw.

Bydd myrdd o ryfeddodau,
  Ar doriad bore wawr;
Pan ddelo plant y tònau,
  Yn iach o'r cystudd mawr;
Oll yn eu gynau gwynion,
  Ac ar eu newydd wedd;
Yn debyg i'w eu Harglwydd,
  Yn dod i'r làn o'r bedd.

Mae cofio dydd y cyfrif,
  Yr hwn a ddaw cyn hir,
Yn uchel alw arnaf
  I lefain am y gwir;
'Rwy'n ofni 'nhwyllo f'hunan,
  O Dduw, didwylla fi:
Nid oes a ddeil ei bwyso
  Ond gwaith dy Ysbryd di.
Y Gŵr :: Yr Oen
maes o law :: ddydd a ddaw
I droi :: A droa('r) :: A dry :: A dro
Arglwydd rho im' 'dnabod :: Dduw rho im' adnabod
ddelw a'r argraff :: stamp a'r ddelw
Yn uchel alw arnaf :: Yn peri i rai o'u calon
'nhwyllo f'hunan :: twyllo'm hunan
ei bwyso :: ei bwysau

1: Thomas Phillips 1772-1842
2: Anad. ? John Williams (Ioan ab Gwilym) 1728-1806
  dyf. 1787 John Thomas 1730-1803
3: 1840 Dafydd George Jones 1780-1879
  cas. Richard a Joseph Williams 1841
4: Anad.

Tonau [7676D]:
Bryndref (<1875)
Caerllyngoed (alaw Gymreig / Stephen Llwyd 1794-1854)
Ellacombe (St Gall Gesangbuch 1863)
Jabez (alaw Gymreig)
Penry (alaw Gymreig)
Rhyddid (alaw Gymreig)
Wilton Square (Megan Watts Hughes 1845-1907)

Gwelir:
  Bydd myrdd o ryfeddodau
  Daw dydd o brysur bwyso
  Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob

(The scales of judgment)
The Man who was on Calvary,
  Is to be seen at hand;
Sitting on his throne,
  With the scales in his hand;
And everyone to be gathered there,
  To be weighed in his presence;
O my soul, seek divinity,
  To turn those scales.

The day of reckoning will come,
  On religion before long;
It will be seen who has substance,
  And who lacks the truth:
O Lord, grant me to know
  On my spirit the mark of thy hand;
For that is the image and the impression,
  To be professed on the day to come.

There will be a myriad of wonders
  At the break of the morrow's dawn,
When the children of the waves come
  Saved from the great tribulation,
All in their white robes
  And transfigured,
Like unto their Lord
  Coming up from the grave.

Remembering the day of reckoning,
  That to come before long,
Is a high call upon me
  To cry for the truth;
I fear deceiving myself,
  O God, make me guileless:
There is nothing that keeps its weight
  But the work of thy Spirit.
The Man :: The Lamb
at hand :: on the coming day
To turn :: Which will turn :: Which will turn :: Which will turn
Lord grant me to know :: God grant me to know
image and the impression :: stamp and the image
Loudly call upon me :: Cause some from their heart
::
::

tr. 2013 Richard B Gillion

 
Once again the world shall see
Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953
Sweet Singers of Wales

[Metre: 7777D]

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~